Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

29 Ebrill 2019

SL(5)406 – Rheoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin nad ydynt yn rhai IACS (Apelau) (Cymru) 2004 (“Rheoliadau 2004”) a Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 (“Rheoliadau 2011”) drwy arfer y pwerau yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68).

Mae Rheoliadau 2004 yn galluogi Gweinidogion Cymru i sefydlu gweithdrefn apelau os gwneir apêl yn dilyn penderfyniad cychwynnol a wnaed o dan unrhyw un neu ragor o gynlluniau cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (“PAC”) a restrir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hynny.

Mae rheoliad 2 yn diweddaru’r cynlluniau y caniateir sefydlu gweithdrefn apelau ar eu cyfer gan Weinidogion Cymru er mwyn sicrhau eu bod yn gyson â Rheoliadau cyfredol yr UE. Mae hefyd yn dirymu’r Atodlen i Reoliadau 2004 sy’n rhestru cynlluniau unigol, y mae llawer ohonynt wedi darfod erbyn hyn neu wedi eu diweddaru yn neddfwriaeth yr UE.

Mae rheoliad 3 yn ddarpariaeth arbed sy’n darparu, pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud neu wedi gwneud penderfyniad cychwynnol ynghylch cynllun a restrir yn yr Atodlen i Reoliadau 2004 cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, fod y weithdrefn apelau a sefydlwyd o dan Reoliadau 2004 yn parhau i fod yn gymwys.

Mae Rheoliadau 2011 yn sefydlu system ar gyfer y fasnach mewn anifeiliaid byw a deunydd genetig ac ar gyfer mewnforio anifeiliaid byw, deunydd genetig a chynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid.

Mae rheoliad 4 yn cywiro diwygiad a wnaed i reoliad 28 o Reoliadau 2011 gan reoliad 12(9) o Reoliadau Materion Gwledig, yr Amgylchedd, Pysgodfeydd a Bwyd (Diwygiadau a Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (“Rheoliadau 2019”).

Mae Rheoliadau 2019 yn diweddaru cyfeiriadau at amryw o ddarnau o ddeddfwriaeth y DU ac Ewrop mewn deddfwriaeth ddomestig sy’n ymwneud ag amaethyddiaeth, iechyd anifeiliaid, lles anifeiliaid, addysg, diogelu’r amgylchedd, bwyd, iechyd planhigion, pysgodfeydd môr a dŵr.

 

Rhiant-Ddeddf: Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972

Fe’u gwnaed ar: 01 Ebrill 2019

Fe’u gosodwyd ar: 05 Ebrill 2019

Yn dod i rym ar: 29 Ebrill 2019